Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Antur ioga a dysgu plant i warchod y ddaear

Antur ioga a dysgu plant i warchod y ddaear

Yr wythnos yma cyhoeddir antur ioga newydd sbon i blant – Y Wariar Bach (Y Lolfa). Dyma’r ail yn y gyfres o lyfrau gan yr actores a’r athrawes ioga Leisa Mererid, yn dilyn llwyddiant Y Goeden Ioga yn 2019. Mae Y Wariar Bach yn dysgu plant am anifeiliaid prin a phwysigrwydd gwarchod y ddaear.  darllen mwy

Luned a Huw Aaron yn cydweithio ar lyfr doniol i blant a rhieni
Dathlu enwau lleoedd Cymru ac anrhydeddu'r Athro Gwynedd O Pierce yn 100 oed
Casgliad i godi calon gan yr Eisteddfod Genedlaethol

Casgliad i godi calon gan yr Eisteddfod Genedlaethol

Ar ôl blwyddyn a mwy anodd, gyda phawb yn delio â heriau newydd ac yn dod i arfer â threfn newydd i fywyd, yr haf hwn cyhoeddir cyfrol newydd sydd yn cwmpasu llesiant corfforol a meddyliol. Bydd Haf o Hyder yn cynnwys saith stori newydd a saith darn o farddoniaeth neu gân gan awduron amrywiol o Gymru. Mae’r casgliad wedi’i greu ar y cyd rhwng Y Lolfa a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mewn cydweithrediad â chwmni adnoddau digidol 4Pi Productions.  darllen mwy

Antur newydd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn

Antur newydd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn

Efallai na fyddwch chi’n gallu mynd ar wyliau i wlad boeth eleni oherwydd Cofid, ond mae’r awdur Ifan Morgan Jones wedi darparu’r ddihangfa berffaith – nofel Gymraeg wedi ei lleoli ar ynys drofannol ar ochr arall y byd.  darllen mwy

Cyfres o nofelau gonest, ffres, llawn cariad, sy'n grymuso lleisiau cwbl newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg

Cyfres o nofelau gonest, ffres, llawn cariad, sy'n grymuso lleisiau cwbl newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg" - Manon Steffan Ros

Cyfres newydd, y cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg, gan awduron a chyd-awduron ifanc wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa yn lansio 26 Gorffennaf 2021. Dyma gyfres o bum nofel onest, pwerus a di-flewyn-ar-dafod gan rai o’n awduron ifanc mwyaf blaengar – Megan Angharad Hunter, Mared Roberts, Elgan Rhys, Iestyn Tyne a Marged Elen Wiliam, gyda Manon Steffan Ros yn ysgrifennu prolog i bob nofel ac yn fentor creadigol ar y gyfres. Mae Y Pump yn brosiect uchelgeisiol, sy’n cyfuno gwaith gwreiddiol pum sgwennwr cyffrous (a phob un ond un yn sgwennu eu nofel gyntaf) gyda barn, cyngor a brwdfrydedd grŵp amrywiol o bump cyd-awdur ifanc gafodd eu dethol o al-wad agored genedlaethol i ddarganfod lleisiau’r genhedlaeth nesaf o sgwennwyr Cymraeg.  darllen mwy

"Darllen hanfodol ar gyfer heddiw" - nofel amserol am hiliaeth a chaethwasiaeth

Mae Safana gan Jerry Hunter yn nofel gyffrous ac amserol ac yn “ddarllen hanfodol ar gyfer heddiw” yn ôl Gareth Evans-Jones, sy’n awdur, yn feirniad ac yn ysgolhaig sy’n astudio caethwasiaeth. Meddai hefyd fod y nofel yn un “eithriadol rymus ac amserol. Ceir yma ymdriniaeth gelfydd ag agweddau amrywiol megis hanes ac anhanes, caethwasiaeth a rhyddid, a pherthynas yr unigolyn â’i gymdeithas.”  darllen mwy

Yr Ewros ac Aaron Ramsey yn ysbrydoli Manon Steffan Ros

Yr Ewros ac Aaron Ramsey yn ysbrydoli Manon Steffan Ros

Gyda’r Ewros ar fin dechrau mae’r awdures arobryn Manon Steffan Ros yn cyhoeddi nofel newydd gyda phêl-droed yn ganolog iddi. Dyma’r ail nofel iddi ysgrifennu am y bêl gron yn dilyn llwyddiant Fi a Joe Allen. Y tro hwn Aaron Ramsey sy’n cael y lle canolog, ac mae’r awdures sydd wrth ei bodd â phêl-droed yn awchu i’r Ewros ddechrau.  darllen mwy

Ysgol yn dathlu diwrnod rhyngwladol y gwenyn am y tro cyntaf!
Gorfoledd a thor-calon pêl-droediwr proffesiynol yng nghyfnod Cenhedlaeth Aur Manchester United
'The Queen's Gambit', achubiaeth drwy wyddbwyll a mwy!

'The Queen's Gambit', achubiaeth drwy wyddbwyll a mwy!

Wedi’u hysbrydoli gan y gyfres fer poblogaidd tu hwnt ar Netflix, The Queen’s Gambit, mae miliynau o bobl nawr yn ymddiddori mewn gwyddbwyll. Mae poblogrwydd y gêm, a chwaraewyd gyntaf tua 1,500 o flynyddoedd yn ôl, wedi datblygu yn ystod y cyfnodau clo, gyda gwyddbwyll yn gêm hawdd i’w dysgu, er yn anodd i’w meistroli’n iawn. Yr wythnos hon cyhoeddir Gan Bwyll a Gwyddbwyll (Y Lolfa), addasiad o nofel hynod boblogaidd yn y Saesneg (Check Mates gan Stewart Foster) sy’n dilyn stori bachgen wrth iddo ddysgu am fywyd drwy chwarae gwyddbwyll. Addaswyd y nofel gan yr awdur poblogaidd Bethan Gwanas.  darllen mwy

Y môr, amaethyddiaeth a mwyngloddio – hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion un teulu

Y môr, amaethyddiaeth a mwyngloddio – hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion un teulu

Mae llyfr newydd a gyhoeddir gan y Lolfa, Land of Lead, yn olrhain stori ac atgofion pedair cenhedlaeth o’r un teulu, o’r 19eg ganrif i ganol y 1960au. Mae’r hanes wedi’i gasglu o gofnodion manwl y teulu, gan gynnwys llyfr nodiadau, cardiau post a anfonwyd adre yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a nodiadau a wnaed gan hen ewythr wrth iddo weithio ar reilffordd gul Dyffryn Rheidol. Mae’r llun yma o un teulu o ogledd Ceredigion wedi’i gyflwyno gan un o’r disgynyddion, Brian Davies, sy’n wreiddiol o Benrhyncoch, ger Aberystwyth.  darllen mwy

Awdur newydd yn cyhoeddi 'Harry Potter Cymraeg'
201-220 o 530 1 . . . 10 11 12 . . . 27
Cyntaf < > Olaf