Erthyglau
Gorfoledd a thor-calon pêl-droediwr proffesiynol yng nghyfnod Cenhedlaeth Aur Manchester United
Llyfr newydd Rhodri Jones yn datgelu sut beth oedd rhannu stafell newid gyda Mawrion Man-U a bod mewn partïon gyda’r Beckham, Yorke a Giggs... darllen mwy
'The Queen's Gambit', achubiaeth drwy wyddbwyll a mwy!
Wedi’u hysbrydoli gan y gyfres fer poblogaidd tu hwnt ar Netflix, The Queen’s Gambit, mae miliynau o bobl nawr yn ymddiddori mewn gwyddbwyll. Mae poblogrwydd y gêm, a chwaraewyd gyntaf tua 1,500 o flynyddoedd yn ôl, wedi datblygu yn ystod y cyfnodau clo, gyda gwyddbwyll yn gêm hawdd i’w dysgu, er yn anodd i’w meistroli’n iawn. Yr wythnos hon cyhoeddir Gan Bwyll a Gwyddbwyll (Y Lolfa), addasiad o nofel hynod boblogaidd yn y Saesneg (Check Mates gan Stewart Foster) sy’n dilyn stori bachgen wrth iddo ddysgu am fywyd drwy chwarae gwyddbwyll. Addaswyd y nofel gan yr awdur poblogaidd Bethan Gwanas. darllen mwy
Y môr, amaethyddiaeth a mwyngloddio – hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion un teulu
Mae llyfr newydd a gyhoeddir gan y Lolfa, Land of Lead, yn olrhain stori ac atgofion pedair cenhedlaeth o’r un teulu, o’r 19eg ganrif i ganol y 1960au. Mae’r hanes wedi’i gasglu o gofnodion manwl y teulu, gan gynnwys llyfr nodiadau, cardiau post a anfonwyd adre yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a nodiadau a wnaed gan hen ewythr wrth iddo weithio ar reilffordd gul Dyffryn Rheidol. Mae’r llun yma o un teulu o ogledd Ceredigion wedi’i gyflwyno gan un o’r disgynyddion, Brian Davies, sy’n wreiddiol o Benrhyncoch, ger Aberystwyth. darllen mwy
Awdur newydd yn cyhoeddi 'Harry Potter Cymraeg'
Mae awdur newydd, Simon Rodway, wedi ceisio mynd ati i greu yr ‘Harry Potter Cymraeg’ wrth gyhoeddi ei nofel gyntaf i blant, Cadi Goch a’r Ysgol Swynion. darllen mwy
Nofel am orbryder i blant 'Ddarllen yn Well'
Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl mae un plentyn a pherson ifanc ym mhob deg yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder a gofid, yn sgil rhywbeth sy’n digwydd yn eu bywydau. Mewn ymateb i hyn mae nofel newydd i blant rhwng 9 a 12 oed yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa i roi sylw i orbryder. Mae Angylion Pryder (Y Lolfa) yn addasiad gan Meinir Wyn Edwards o’r nofel Saesneg Worry Angels gan Sita Brahmachari. darllen mwy
Adleisiau Pengwern a'r oesoedd a fu yn ysbrydoli nofel ddirgelwch
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan yr awdur o Dre Taliesin, Martin Davis. Mae Ysbryd Sabrina (Y Lolfa) yn stori ddirgelwch sy’n gweu diflaniad bachgen ifanc gyda hen hanes a chwedl. Lleolir y nofel ar lannau afon Hafren, afon y dduwies Sabrina, lle mae adleisiau Pengwern yr oesoedd a fu a theithi ysgeler y byd cyfoes yn dod ynghyd. darllen mwy
Awdur llwyddiannus yn ysgrifennu ei lyfr Cymraeg cyntaf i blant
Mae’r awdur Huw Davies sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr llenyddol Saesneg wedi troi i ysgrifennu yn Gymraeg, gan gydweithio gyda’r arlunwraig Lowri Roberts, sy’n adnabyddus fel ‘Hen Fenyw Fach’ ac wedi cael llwyddiant yn gwneud darluniau o bob math. darllen mwy
Apêl am fwy o enwau genod gwych Cymru ar gyfer ail gyfrol!
Mae’r awdures Medi Jones-Jackson yn gwneud apêl am fwy o enwau merched i’w cynnwys o fewn cloriau ei llyfr newydd, yr ail Genod Gwych a Merched Medrus a fydd allan yn haf 2021. darllen mwy
Neges bwysig o ddathlu amrywiaeth yng nghyfres Cyw
Mae Bolgi a’r Ŵyn Bach, sef y llyfr nesaf yng nghyfres poblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw wrth iddo edrych ar ôl oen bach Guto’r Ffermwr. Mae ynddi neges bwysig am gydraddoldeb, dathlu amrywiaeth, a thrin pawb yr un peth. darllen mwy
“Cryno, heriol, cyraeddadwy!” – cyfrol amserol yn rhannu syniadau iwtopaidd ar y Gymru Fydd
“Dwi’m yn disgwyl i bawb gytuno â phopeth yn y pamffled – i rai fydd pethau'n rhy radical, i eraill ddim yn digon radical,” meddai Llywelyn ap Gwilym am ei gyfrol ddwyieithog newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sef Llyfr Du Cymru Fydd / The Black Book of the New Wales. darllen mwy
Trist oedd clywed am farwolaeth Hywel Francis
Trist oedd clywed am farwolaeth Hywel Francis yn 74 oed. darllen mwy
Poster newydd i hyrwyddo pwysigrwydd cadw enwau lleoedd Cymraeg
Yn dilyn y ddiddordeb mewn pwysigrwydd cadw enwau llefydd Cymraeg mae’r Lolfa a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru wedi cydweithio i gyhoeddi poster newydd sy’n cynnwys cerdd gan Twm Morys ar lun o Nant Ffrancon. darllen mwy
Ar Grwydir Eto - portreadau o gymeriadau lliwgar cefn gwlad y gorffennol
O Dewi Emrys i W H Davies, mae gan Gymru lu o enwogion oedd yn hoff o grwydro. Ac mewn llyfr newydd mae’r awdur Goronwy Evans o Lanbed wedi ysgrifennu portreadau o ddegau ohonynt. Ar Grwydir Eto yw teitl y gyfrol sy’n ddilyniant i’w gyfrol Ar Grwydir a gyhoeddwyd yn 2016. darllen mwy
Cyfrol hanfodol i bobl Cymru
Wedi llwyddiant y podlediad poblogaidd, Dim Rŵan na Nawr cyhoeddir cyfrol gan wasg y Lolfa sy’n dod â’r podlediad rhwng dau glawr - Dim Rŵan na Nawr: Hanes Cymru Drwy’r Oesoedd. darllen mwy
221-240 o 538 | 1 . . . 11 12 13 . . . 27 | |
Cyntaf < > Olaf |