Erthyglau
Llyfr cyntaf artist yn sôn am ymfudo, hiraeth a chwiltiau
Mae’r arlunydd a dylunydd adnabyddus Valériane Leblond wedi ysgrifennu’i llyfr cyntaf i blant, ynghyd â darlunio’r lluniau. Mae Y Cwilt yn barhad o’r themâu mae’n archwilio yn ei gwaith celf, sef y syniad o berthyn, a’r darlun o gwiltiau. darllen mwy
Gwnewch yn fawr o bob cyfle: Neges nofel newydd hwyliog a ffraeth Marlyn Samuel
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun yn frenhines y nofel gyfoes boblogaidd Gymraeg, ac mae ei nofel newydd yn parhau ei theyrnasiad. Mae Cicio’r Bwced yn nofel deimladwy a ffraeth, gyda neges bwysig wrth wraidd y stori. darllen mwy
Llyfr coginio figan cyntaf yn y Gymraeg!
Mae Ceri Lloyd yn wyneb adnabyddus – yn ogystal â’i rôl ar y gyfres Rownd a Rownd mae’r actores hefyd yn rhedeg blog a chyfrif Instagram poblogaidd, sef www.saib.yoga. Mae Ceri’n angerddol am ysbrydoli pobl i fyw bywyd mwy iach a chynaliadwy, a dyma mantra ei llyfr coginio figan, y cyntaf erioed yn y Gymraeg. Mae O’r Pridd i’r Plât yn addas i bawb sydd eisiau cael eu hysbrydoli i fwyta mwy o lysiau a byw’n iach. darllen mwy
Effaith Brecsit yn cael ei drafod am y tro cyntaf mewn ffuglen Gymraeg
Mae Y Bwrdd yn nofel fodern sy’n ddarlun dychanol, crafog a brawychus o’n bywyd heddiw. Ymdrinnir â pheryglon Brecsit a rhoir llais i sawl math o bolemeg gymdeithasol gyfredol. darllen mwy
'Mae'r ysgrifen ar y mur!": Cyfrol yn tystio i Gymru'n deffro!
Ymateb y Cymry i’r difrod i’r murlun eiconig ger Llanrhystud yn gynharach eleni fu’r symbyliad i’r awdur Mari Emlyn greu cyfrol ddwyieithog – Cofiwch Dryweryn: Cymru’n Deffro. darllen mwy
'Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog': nofel gyntaf Iwcs
“Taith wyllt i berfeddion byd sy’n troi o dan ein trwynau. Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog. Mae Iwcs yn ninja o nofelydd” – dyna ganmoliaeth uchel yr actor adnabyddus Rhys Ifans am Dal y Mellt, sef nofel gyntaf yr actor a’r canwr poblogaidd Iwcs (Iwan Roberts). darllen mwy
Nofel gyfoes Haf Llewelyn yn archwilio effaith damwain
Mae’r awdures boblogaidd Haf Llewelyn, sydd wedi ysgrifennu nifer o nofelau hanesyddol, wedi troi at sgwennu nofel gyfoes sy’n darlunio clymau o fewn cymdeithas yn dilyn damwain. Mae Pwyth, sydd wedi’i leoli mewn tref fach glan y môr yng ngogledd Cymru, hefyd yn edrych ar sut mae disgwyliadau pobl, a disgwyliadau ein hunain, yn effeithio ar yr unigolyn. darllen mwy
Y LLYFR GWREIDDIOL CYNTAF CYMRAEG I GYFLWYNO MABWYSIADU I BLANT
Mae’r awdures Eurgain Haf wedi ysgrifennu llyfr i blant dan 7 sydd yn cyflwyno’r syniad o fabwysiadu - y llyfr gwreiddiol cyntaf yn y Gymraeg i wneud hyn. Mae Y Boced Wag yn stori annwyl sy’n dilyn Cadi'r cangarŵ wrth iddi geisio dod o hyd i hapusrwydd, a llenwi ei phoced wag. darllen mwy
Newyddion ffug yn oes Niclas y Glais
Yn oes newyddion ffug gwelwn o lythyrau Niclas y Glais at ei ffrindiau Evan Roberts ac Awena Rhun yn ogystal â’i ysgrifau newyddiadurol fod hyn ddim yn beth newydd, a bod adrodd y newyddion mewn ffordd gamarweiniol yn digwydd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn ogystal â’r presennol. Meddai Glen George, nai i Niclas y Glais: darllen mwy
DATHLU DROS 10,000 O FLYNYDDOEDD O HANES Y MÔR MEWN LLYFR NEWYDD
Mae’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr erioed o hanes y môr yng Nghymru - a gymrodd dros ddegawd i’w hymchwilio a’i chynhyrchu - yn cael ei chyhoeddi’r wythnos yma. Mae’r gyfrol Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr yn tyrchu i bob agwedd o gysylltiad Cymru â’r môr, o hanes cynnar i’r presennol: o archeoleg i baentiadau a barddoniaeth, o hanes morwrol i wyliau glan y môr. darllen mwy
Lloyd Jones yn ail ymweld â byd ei nofel enwog Y Dŵr
Y Dŵr gan Lloyd Jones oedd un o’r nofelau dystopaidd gorau i’w cyhoeddi yn y Gymraeg. Fe’i disgrifiwyd fel clasur, oedd yn “ysgytwol a gafaelgar” pan y’i cyhoeddwyd yn 2009. Yr wythnos hon cyhoeddir rhaghanes (prequel) i’r nofel, sef Fflur. darllen mwy
Cofnodi newidiadau enfawr: Hanes Menywod Cymru yn y ganrif ddiwethaf
Mae ffrwyth ymchwil, cydweithio a chofnodi a wnaethpwyd bron i ugain mlynedd yn ôl yn gweld golau dydd o’r diwedd gyda chyhoeddi cyfrol gyfoethog yn adrodd hanes difyr ac onest menywod o bob rhan o Gymru. Mae Hanes Menywod Cymru 1920–1960: Yn eu geiriau eu hunain gan Catrin Stevens, ac arweinydd y prosiect yma, yn seiliedig ar leisiau dros fil o fenywod. darllen mwy
Y ddafad ddu yn San Steffan: Hanes diweddar y blaid Lafur drwy lygaid Cardi
Yr wythnos hon cyhoeddir hunangofiant gan un o ffigyrau amlycaf byd gwleidyddiaeth, a’r Cymro a fu’n gweithio San Steffan am y cyfnod hiraf erioed – yr Arglwydd John Morris. darllen mwy
Nofel 'agerstalwm' cyntaf erioed yn y Gymraeg
Yr wythnos hon cyhoeddir y nofel gyntaf erioed yn y genre ‘Agerstalwm’ (Steampunk) yn y Gymraeg. Mae Agerstalwm yn gwneud defnydd o hanes yr 19eg ganrif ond yn gorliwio datblygiadau technolegol y cyfnod er mwyn amlygu themâu sy’n berthnasol i ni heddiw. Babel yw teitl y nofel, sydd wedi ei hysgrifennu gan Ifan Morgan Jones a’i chyhoeddi gan Y Lolfa. darllen mwy
301-320 o 530 | 1 . . . 15 16 17 . . . 27 | |
Cyntaf < > Olaf |