Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Cyfrol am rai o fawrion llenyddol Cymru

Cyfrol am rai o fawrion llenyddol Cymru

Humphrey Llyud, William Salesbury, Henry Salesbury, Morgan Llwyd, Jac Glan-y-Gors, Thomas Jones o Ddinbych, Twm o’r Nant, Thomas Gee, Syr Henry James – dyna enwau rai o fawrion llenyddol Sir Ddinbych ac enwau sy’n ymddangos mewn cyfrol newydd sbon gan wasg y Lolfa – Genefa, Paris a Dinbych ac Ysgrifau Eraill.  darllen mwy

Nofel am dref glan môr yn agor trafodaeth am begynnu barn mewn cymdeithas
Cyhoeddi astudiaeth gan Merêd ym mlwyddyn canmlwyddiant ei eni
John Jenkins yn honni y gallai'r Tywysog fod wedi cael ei ladd yn ystod yr arwisgo
Llais cryf ieuenctid yn torri tabŵ cyflyrau hirdymor

Llais cryf ieuenctid yn torri tabŵ cyflyrau hirdymor

Mae cyfrol a gyhoeddir yr wythnos hon yn ceisio torri’r tabŵ o siarad yn onest ac yn ddewr am eu cyflyrau hir dymor, boed hynny’n salwch corfforol neu feddyliol. Mae Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) yn cynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i’r rhai sydd yn ymdopi â’u brwydrau eu hunain yn ogystal â llenwi’r bwlch yng ngwybodaeth y cyhoedd yn gyffredinol am gyflyrau fel epilepsi, acne, clefyd y siwgr, OCD a chancr y gwaed.  darllen mwy

Nofel sy'n herio'r bondigrybwyll Bond i grybwyll yr oes newydd

Nofel sy'n herio'r bondigrybwyll Bond i grybwyll yr oes newydd

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel antur gyfoes gan yr awdur poblogaidd Daniel Davies. Mae Pedwaredd Rheol Anhrefn yn ddilyniant hirddisgwyliedig i Tair Rheol Anhrefn, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011, ac yn trafod rhai o ddilemas mawr defnyddio technoleg newydd wrth warchod a diogelu.  darllen mwy

Drygioni Nel yn ôl, â thair stori arall!

Drygioni Nel yn ôl, â thair stori arall!

Ar ôl prysurdeb a chyffro 12 mis diwethaf, gyda chwmni Arad Goch yn teithio sioe theatr Na, Nel! o gwmpas Cymru i dros 17 o leoliadau yn ystod haf 2018, cyhoeddi llyfr creu i danio’r dychymyg, a llyfr stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr – y llyfr cyntaf yn y Gymraeg, mae Nel ’nôl! Mae Na, Nel! Help! (Y Lolfa) yn ein cyflwyno i dair stori arall am y ferch annwyl ond direidus!  darllen mwy

Prif lenor yn cyffroi am nofel 'gyffrous, mentrus a chwbl unigryw' i'r arddegau
Llyfr i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched Cymreig

Llyfr i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched Cymreig

Yr wythnos hon cyhoeddir Genod Gwych a Merched Medrus (Y Lolfa) gan Medi Jones-Jackson. Mae’r llyfr yn dilyn llwyddiant llyfrau Saesneg fel Rebel Girls ond dyma lyfr gwreiddiol sy’n cofnodi hanes 12 o ferched ysbrydoledig o Gymru ac mae’n ‘gyflwyniad perffaith i rai o ferched blaenllaw Cymru a wnaeth anelu’n uchel, cyrraedd y brig a newid siâp ein cenedl.’  darllen mwy

Storiau newydd gan gantores enwog yn cyflwyno dywediadau Cymraeg i blant
Llew o gyfres Cyw yn cael ei lyfr ei hun!
Cofio '69: Gwrthdaro rhwng plismyn y llywodraeth a Chymry Cymraeg

Cofio '69: Gwrthdaro rhwng plismyn y llywodraeth a Chymry Cymraeg

Ar y 1af o Orffennaf eleni, fe fydd hi’n 50 mlynedd ers i Charles Philip Arthur George gael ei urddo yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Mae Dim Croeso ’69 – Gwrthsefyll yr Arwisgo (Y Lolfa) gan Arwel Vittle yn egluro sut beth oedd bod ym merw pethau ar y pryd, wrth iddo gyfuno’r hanes gyda sylwadau llygaid-dystion a straeon na welwyd mewn print o’r blaen.  darllen mwy

Tensiynau a chasineb yng ngwleidyddiaeth Cymru'r 60au a 70au

Os oes dau gymeriad sy’n crisialu pegynau tanllyd y cyfnod, y ddau yw’r Aelodau Seneddol Gwynoro Jones a Gwynfor Evans. Mae stori Gwynfor Evans, Plaid Cymru wedi’i adrodd dro ar ôl tro ond nid oes lawer o sylw wedi’i roi i’w gyd-Aelod Seneddol Gwynoro Jones. Yn Gwynoro a Gwynfor a gyhoeddwyd gan Y Lolfa, ceir ochr Gwynoro o hanes un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.  darllen mwy

'Escape Room' yn ysbrydoli nofel i'r arddegau gan Anni Llŷn

'Escape Room' yn ysbrydoli nofel i'r arddegau gan Anni Llŷn

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan Anni Llŷn i’r arddegau cynnar, sef Asiant A: Her LL. Mae’r nofel am Alys Phillips, sy’n 14 oed ac yn ysbïwraig ar dasgau cudd. Mae Anni Llŷn erbyn hyn wedi ysgrifennu nifer o nofelau i’r arddegau ac yn datblygu fel awdures boblogaidd i blant o bob oedran, yn ogystal â’i gwaith fel bardd a chyflwynydd teledu.  darllen mwy

321-340 o 530 1 . . . 16 17 18 . . . 27
Cyntaf < > Olaf