Erthyglau
Nofel Gymraeg gyntaf gyda menyw draws yn brif gymeriad
Mae’r nofel Gymraeg gyntaf erioed i gael menyw traws rywiol yn brif gymeriad wedi ei chyhoeddi yr wythnos hon. darllen mwy
Llenwi'r bwlch mewn straeon ysbryd yn y Gymraeg
Mae un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru, Mihangel Morgan, wedi gosod her iddo’i hun i ‘lenwi’r bwlch’ yn yr angen am stori ysbryd Nadoligaidd Gymraeg. darllen mwy
Stori Iolo Morganwg yn parhau i danio dychymyg
Mae athro, awdur ac actor a symudodd i Fro Morgannwg wedi ei ysbrydoli gymaint gan hanes Iolo Morgannwg, ysgrifenodd nofel amdano. darllen mwy
Brexit, llymder, eithafiaeth a mwy - ymateb Manon Steffan Ros i gyfnod cythryblus
Ymhlith yr ysgrifau yng nghyfrol newydd Manon Steffan Ros, Golygon, a gyhoeddir yr wythnos hon, mae’r awdur yn trafod rhai o bynciau llosg un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus mewn cof. darllen mwy
Llwyddiant cyfres boblogaidd Na, Nel! am gyrraedd y llwyfan
Mae cyfres wreiddiol, boblogaidd Gymraeg i blant bellach yn cael ei haddasu ar gyfer y llwyfan. darllen mwy
Dylid ‘codi carreg i gofio Niclas y Glais’
Mae’r awdur a’r newyddiadurwr Hefin Wyn wedi galw am garreg i gofio Niclas y Glais, y Comiwnydd a’r Cristion o ardal y Preseli. darllen mwy
‘Plant mewn perygl o golli geiriau Cymraeg am fyd natur' meddai Caryl Lewis
Mae’r awdur adnabyddus a phoblogaidd Caryl Lewis wedi rhybuddio bod plant y dyddiau hyn mewn perygl o golli geiriau a thermau Cymraeg o fyd natur. darllen mwy
Dathlu y gorau o chwedloniaeth Gymreig
A hithau wedi ei chlustnodi yn Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru, mae artist wedi mynd ati i ddathlu’r gorau o chwedlau Cymru drwy gyhoeddi dilyniant i lyfr lliwio poblogaidd. darllen mwy
'Y byd celf yn rhy elitaidd' meddai artist amlwg
Mae’r artist adnabyddus, Wynne Melville Jones, wedi dweud bod angen ‘i gelf celf fod i bawb ac ni ddylai, ar unrhyw gyfrif, gael ei gyfyngu i griw dethol, honedig ddiwylliedig, sydd hefyd yn meddu ar allu ariannol’. darllen mwy
Dathlu tri chanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn a thalu teyrnged i'r diweddar Glyn Tegai Hughes
Yn 2017 dethlir trichanmlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn, prif emynydd Cymru. Nawr, mae Cymdeithas Emynau Cymru a gwasg Y Lolfa yn ymuno a’r dathlu ac yn talu teyrnged i’r diweddar Glyn Tegai Hughes, arbenigwr ar waith Pantycelyn, drwy gyhoeddi cyfrol o’i ysgrifau. darllen mwy
Llyfrgellydd yn troi ei llaw at ysgrifennu i blant
Mae llyfrgellydd a dreuliodd dros bymtheg mlynedd yn gweithio fel Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc ym Môn a Gwynedd, wedi ysgrifennu ei llyfr cyntaf i blant. darllen mwy
Ffion Dafis yn agor ei chalon rhwng dau glawr
Mae’r actores adnabyddus Ffion Dafis wedi agor ei chalon am y tro cyntaf am golli ei mam i ganser, am yr hyrddiadau sy’n ei phlagio ac am ei pherthynas gymhleth gyda alcohol. darllen mwy
‘Y degawd nesaf gyda’r mwyaf arwyddocaol erioed i wleidyddiaeth Cymru’ meddai golygydd materion Cymreig y BBC
Fe fydd y degawd nesaf gyda’r mwyaf arwyddocaol erioed i wleidyddiaeth Cymru, yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, ar achlysur cyhoeddi cyfrol o’i waith i nodi ugain mlynedd wedi i Gymru bleidleisio dros gael Cynulliad Cenedlaethol. darllen mwy
421-440 o 530 | 1 . . . 21 22 23 . . . 27 | |
Cyntaf < > Olaf |