Erthyglau
Dwy stori arall i gwblhau cyfres tylwyth teg y tymhorau
Yn dilyn cyhoeddiad storïau Rhoswen a Mwyaren, tylwyth teg yr hydref a’r gaeaf yn 2017, dyma gyflwyno Brwynwen a Briallen, sef tylwyth teg y gwanwyn a’r haf. Mae eu storïau’n cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa’r wythnos yma, ac yn cwblhau pedwarawd o lyfrau ar y thema oesol honno, sef y tymhorau. darllen mwy
Dysgwyr Cymraeg yn cael help llaw gyda phrosiect sy'n gweld pedwar o weisg Cymru yn cyd-weithio
Mae’r Lolfa yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect Llyfrau Amdani, sef prosiect cyhoeddi cyfres newydd gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r pecyn cyntaf yn cael ei gyhoeddi'r wythnos yma. darllen mwy
Enillydd gwobrau comedi a'i nofel am goleg Aber yr 80au
Fel cynhyrchydd rhaglenni mae Sioned Wiliam wedi ennill gwobrau ac wedi gweithio â rhai o sêr mwyaf y diwydiant comedi. Nawr, mae wedi rhoi ei dawn ar waith unwaith eto trwy lunio nofel ffraeth am fywyd yng Ngholeg Aber yn yr 80au. darllen mwy
Cyhoeddi nofel gyntaf un o brif nofelwyr Cymru ers wyth mlynedd
Mae un o brif nofelwyr Cymru wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf ers bron i ddeng mlynedd. darllen mwy
Cyhoeddi'r cofiant cyntaf erioed i un o 'ffotograffwyr newyddiadurol gorau'r byd' - Philip Jones Griffiths
Degawd ers marwolaeth un o’r ffotograffwyr newyddiadurol gorau’r byd, y Cymro Cymraeg Philip Jones Griffiths, fe gyhoeddir y cofiant cyntaf erioed iddo, a hynny yn ei famiaith. Mae’r gyfrol Philip Jones Griffiths - Ei Fywyd a’i Luniau gan Ioan Roberts, a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg y Lolfa, yn cynnwys hanner cant o luniau trawiadol gan Philip ei hun, o Gymru, Fietnam a sawl gwlad arall. darllen mwy
Uwch ddylunydd ffasiwn o Gymru sydd yn dylunio i gwmni All Saints yn cyhoeddi llyfr gwreiddiol Cymraeg i blant.
Mae uwch ddylunydd ffasiwn o Gymru sydd yn dylunio i gwmni rhyngwladol AllSaints wedi cyhoeddi llyfr gwreiddiol Cymraeg i blant yr wythnos hon. darllen mwy
Llenwi'r bwlch yn y llyfrau sydd ar gael i rieni yn y Gymraeg
Mae un Mam wedi mynd ati i lenwi’r bwlch yn y llyfrau Cymraeg sydd ar gael sydd yn darlunio realiti sefyllfa o fagu plentyn yng Nghymru gyda safbwynt Cymreig a Chymraeg drwy gyhoeddi llyfr newydd fydd yn ganllaw doniol a chynhwysfawr i rieni newydd yn y Gymraeg. darllen mwy
Cyhoeddi cyfrol Diwrnod y Llyfr arbennig - yn Gymraeg!
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gadarnhau bod cyfrol arbennig i ddathu Diwrnod y Llyfr am gael ei chyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed. darllen mwy
Dewis llyfr gwreiddiol Cymraeg i blant fel rhan o gynllun Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
Mae llyfr Cymraeg gwreiddiol i blant wedi ei ddewis ar gyfer cynllun cyffrous gan Lywodraeth Cymru i hybu llythrenedd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. darllen mwy
Comic Mellten yn chwilio am gartwnwyr ifanc y dyfodol
Mae comic Cymraeg Mellten yn chwilio am gartwnwyr ifanc y dyfodol drwy roi’r cyfle i blant ifanc greu cymeriad neu stribed cartŵn eu hunain mewn cystadleuaeth fawr a lansir yr wythnos hon. darllen mwy
Caru llyfrau, caru darllen
A hithau yn ddiwrnod Santes Dwynwen ar Ionawr 25, beth am roi llyfr i’r rhai rwyt ti’n ei caru? darllen mwy
Sinemau anghofiedig gorllewin Cymru yn cael ei darganfod o'r newydd
Mae hanes cyfrinach sinemâu anghofiedig gorllewin Cymru wedi cael eu hailddarganfod yr wythnos hon. darllen mwy
Y Selar - digwyddiad dirgel yng nghartref llyfrau enwcoaf Cymru
Bydd un o frandiau pobl ifanc amlycaf Cymru yn lansio eu llyfr cyntaf mewn digwyddiad dirgel yng nghartref llyfrau enwocaf Cymru, o dan y teitl amwys ‘Seiat yn Y Selar’. darllen mwy
Dwy awdur yn mynd ati i geisio llenwi’r ‘bwlch anferthol’ mewn llyfrau Cymraeg i’r arddegau
Mae dwy o awduron amlycaf Cymru wedi cymryd cam at lenwi’r bwlch ‘anferthol’ sydd mewn llyfrau Cymraeg ar gyfer oedolion ifanc drwy gyhoeddi dwy drioleg newydd sbon yn sgil derbyn comisiwn gan Lywodraeth Cymru. darllen mwy
Lyn Ebenezer yn ‘Gofidio am y Gymraeg a chefn gwlad’
Mae’r awdur Lyn Ebenezer wedi mynegi ei ofid dros y Gymraeg a chefn gwlad mewn cyfrol o atgofion a gyhoeddir yr wythnos hon. darllen mwy
Cynnwrf etholiad a chyffro darlledu – Dewi Llwyd yn datgelu’r troeon trwstan tu ôl y llenni
Mae’r darlledwr adnabyddus Dewi Llwyd wedi datgelu rhai o’i brofiadau mwyaf cofiadwy yn ystod cynnwrf gwleidyddol blwyddyn etholiad mewn dyddiadur dadlennol, gan hel atgofion hefyd am ei ddegawdau’n cyflwyno amryfal raglenni, gan gynnwys Pawb a’i Farn. darllen mwy
Blodau Cymru: 'Campwaith' gan un o fotanegwyr gorau'r wlad
Mae cyfrol newydd hir-ddisgwyliedig wedi cael ei chanmol fel ‘campwaith’ gan yr Athro Deri Tomos. darllen mwy
401-420 o 530 | 1 . . . 20 21 22 . . . 27 | |
Cyntaf < > Olaf |