Erthyglau
Llywydd Gŵyl Cobiau Aberaeron wedi cyhoeddi llyfr hanes llaethdai Cymry Llundain
Dros y canrifoedd mae’r Cymry wedi bod yn ganolog ac yn rhan bwysig iawn o ddosbarthu llaeth i drigolion dinas Llundain. Fe gyhoeddir llyfr dwyieithog yn nodi hanes y cyfraniad pwysig a wnaed gan Gymry o ardaloedd gwledig, gan gynnwys Ceredigion, ar Lundain a’i boblogaeth a oedd yn tyfu’n gyflym. Ganed yr awdur Megan Hayes i rieni o Sir Aberteifi, Dan ac Eliza Jane Lloyd, ac roedd y ddau ohonynt yn gweithio ym masnach llaeth Llundain. darllen mwy
CYHOEDDI LLAWLYFR HANFODOL AM BATAGONIA GAN GYMRAES A SWYNWYD GAN Y WLADFA
Yn y dathliad blynyddol i gofnodi glaniad y Cymry Cyntaf ym Mhorth Madryn, cyhoeddir llawlyfr pwysig i dywys pobl ar hyd taith y Cymry ym Mhatagonia gan Gymraes a briododd ddyn o’r Wladfa. Mae Llawlyfr y Wladfa, wedi’i ysgrifennu gan Delyth MacDonald, yn annog y darllenydd i ddilyn yr haul tua’r gorllewin hyd at yr Andes – mi fydd yn cael ei chyhoeddi yng Ngŵyl y Glaniad, sydd eleni yn Y Bala ar Orffennaf 28. darllen mwy
Ffrindiau oes yn cydweithio i greu llyfr Deian a Loli
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres deledu Deian a Loli, mae’r Lolfa ar fin cyhoeddi’r llyfr cyntaf mewn cyfres newydd am yr efeilliaid direidus sydd â phwerau hudol ym mis Gorffennaf. darllen mwy
Trosedd go iawn yn ysbrydoli nofel dywyll newydd Llwyd Owen
Mae un o nofelwyr mwyaf blaengar a chyfoes Cymru yn cyhoeddi nofel newydd dywyll yr wythnos hon – ei stori orau eto ym marn awduron blaenllaw. darllen mwy
Merched Cymru yn Codi Llais
A hithau'n 100 mlynedd ers i rai merched gael y bleidlais ym Mhrydain, mae merched Cymru yn lleisio’u barn ar gyfartaledd a pharch mewn llyfr newydd o’r enw Codi Llais a gyhoeddir gan Y Lolfa. darllen mwy
Y 'BREXIT BLUES' YN YSBRYDOLI THRILLER ARSWYDUS A THYWYLL
Mae un o awduron amlycaf Cymru wedi ysgrifennu nofel sy'n dra wahanol i'w steil arferol. Mae Jon Gower wedi ysgrifennu nifer fawr o nofelau yn y Gymraeg ac y Saesneg ac wedi ennill Llyfr y Flwyddyn am ei waith llenyddol. Ond yr wythnos hon cyhoeddir ei nofel newydd Y Düwch, sef nofel drosedd dywyll, gan Y Lolfa. darllen mwy
Malan Wilkinson yn datgelu'r cyfan am ei salwch a'r achubiaeth ger bont y Borth mewn llyfr
Mae stori Malan Wilkinson o Gaernarfon yn gyfarwydd i lawer. Un noson ychydig flynyddoedd yn ôl, pan oedd yn dioddef o iselder eithafol, clywodd lais yn dweud wrthi bod ei hamser yn dod i ben. Yn ei chyfrol Rhyddhau’r Cranc, allan yr wythnos hon gan Y Lolfa, mae Malan yn agor ei chalon ac yn siarad yn ddiflewyn ar dafod am gyfnodau anoddaf ei bywyd a’r brwydrau bu’n ei hymladd. darllen mwy
‘Cardi-Noir’ yn Mynd o Nerth i Nerth
Mae Gareth Prior yn enw cyfarwydd iawn i'r sawl sydd yn mwynhau storïau trosedd 'Cardi-Noir' Geraint Evans. Mae’r ditectif erbyn hyn yn mynd ati i ddatrys pumed achos mewn nofel newydd sy’n cael ei chyhoeddi yr wythnos hon. darllen mwy
Cwpan y Byd - Llawlyfr "di-duedd" Cymraeg
Gyda phencampwriaeth Cwpan Pêl-droed y Byd yn Rwsia ar droed bydd y siopau yn llawn deunydd hyrwyddo a marchnata di-ri. Mae’r Lolfa wedi mynd ati i gyhoeddi cyfeirlyfr “di-duedd” Cymraeg, a gobaith yr awdur Dylan Ebenezer yw y bydd y gyfrol yn gymorth i ddilynwyr pêl-droed ddewis tîm ar gyfer y gystadleuaeth, gan na fydd Cymru yn cymryd rhan. darllen mwy
Datgelu'r frwydr dros addysg Gymraeg ac yn erbyn Education First gan addysgwr 'Stalinaidd' Dyfed
Ar 10 Mai cyhoeddir hunangofiant gan un o ffigyrau amlycaf y byd addysg yng ngorllewin Cymru sy’n tystio i’r newidiadau mawr a fu yn y Fro Gymraeg yn ystod chwarter olaf yr ugeinfed ganrif dan ddylanwad y mewnfudo. darllen mwy
“Camp Lawn” Llyfr y Flwyddyn i’r Lolfa
Yn ogystal â dathlu pen-blwydd y cwmni yn 50 oed bu 2017 yn flwyddyn ragorol i’r Lolfa o ran cyhoeddi gyda chwech o lyfrau’r cwmni yn cael eu dewis ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. O’r tri llyfr ar y rhestr fer yn y categorïau Ffeithiol Creadigol a Ffuglen, cyhoeddwyd y cyfan gan Y Lolfa. darllen mwy
Gwasg ddigidol newydd Y Lolfa yn creu argraff
Mae gwasg Y Lolfa yn Nhalybont wedi buddsoddi mewn gwasg argraffu ddigidol newydd fel ychwanegiad i weisg litho’r cwmni. Y Lolfa, sy’n cyflogi 20 o weithwyr, yw un o’r cwmniau cyntaf ym Mhrydain i brynu’r Xerox Versant 180. Bydd y wasg newydd yn galluogi’r cwmni i argraffu gwaith digidol o’r safon uchaf bosib. Dywedodd Paul Williams, Rheolwr Gwaith y cwmni. darllen mwy
'Campwaith' Goronwy Wynne yn cael ei ail argraffu
Mae'r gyfrol Gymraeg gyntaf i geisio cyflwyno hanes a sefyllfa planhigion Cymru, Blodau Cymru: Byd y Planhigion, yn cael ei ail argraffu yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa ar ôl yr ymateb syfrdanol i’r argraffiad cyntaf. darllen mwy
381-400 o 530 | 1 . . . 19 20 21 . . . 27 | |
Cyntaf < > Olaf |