Erthyglau
"Trysor" - Cipolwg ar fywyd fferm yng nghefn gwlad Cymru yn nyddiau cynnar yr 20fed ganrif
Yr wythnos hon cyhoeddir cofnod gwerthfawr o fywyd ar fferm yng nghefn gwlad Sir Feirionnydd yn nyddiau cynnar yr ugeinfed ganrif. Mae Hogyn Bryn Moel yn gofnod o fywyd Goronwy Owen (1901 – 1994) a fagwyd ar fferm Bryn Moel, Llanycil, ger y Bala. Disgrifir y gyfrol fel “trysor arbennig” gan Cledwyn Fychan a dywed: “ni welais enghraifft o orchwylion fferm ddechrau’r ugeinfed ganrif yn cael eu trafod mor fanwl o’r blaen”. darllen mwy
Llyfr am ddementia sy'n annog gobaith a byw bywyd i'r eithaf
Yr wythnos hon cyhoeddir Olwyn Sgwâr: Byw’n Dda gyda Dementia yn rhan o gyfres Darllen yn Well gan y Reading Agency. Mae’n gyfrol bwysig sy’n anelu at roi cymorth i’r sawl sydd yn dioddef a’r sawl sy’n delio gyda dementia. Dymuna’r awduron, sef Peter Berry a Deb Bunt, ledaenu’r neges ‘dydy bywyd ddim drosodd gyda dementia, ond mae ychydig yn wahanol’. Mae’r gyfrol yn rhannu profiadau Peter Berry o fyw gyda’r cyflwr angheuol, a phrofiadau ei ffrind Deb Bunt, sydd wedi dysgu i fwynhau bob dydd i’r eithaf. darllen mwy
Llyfr i blant yn cyfleu pwysigrwydd amaethyddiaeth yng nghanol cyfnod o ansicrwydd
Mae'r canwr a’r cyflwynydd poblogaidd, Welsh Whisperer, yn cyhoeddi llyfr amaethyddol i blant sy’n llawn ffeithiau, lluniau a gweithgareddau difyr am beiriannau ac offer y fferm. Mae Llyfr Peiriannau’r Fferm hefyd yn cynnwys codau QR i’w ganeuon poblogaidd fel ‘Ni’n beilo nawr’ a ‘Loris Mansel Davies’. darllen mwy
Nofel epig "feistrolgar" wedi ei hysbrydoli gan y Mabinogi
Mae chwedloniaeth wedi diddori’r awdur Peredur Glyn erioed, a’r wythnos hon cyhoeddir ei ail gyfrol ffuglen wedi ei hysbrydoli gan chwedlau Cymru. Mae Cysgod y Mabinogi (Y Lolfa) yn nofel arswyd epig a ddisgrifir gan Bethan Gwanas fel “storm o nofel” a “meistrolgar; do’n i wir methu ei rhoi i lawr.” Meddai Huw Aaron bod gan y llyfr “y diweddglo mwyaf epig a welodd llên Cymru erioed.” darllen mwy
Teyrnged i un o fawrion y genedl
Roedd Dai Jones Llanilar yn gymeriad adnabyddus a phoblogaidd, un oedd yn llawn hiwmor cynnes a’r hiwmor hwnnw’n byrlymu ar y sgrin fach, y radio ac yn y byd amaethyddol am ddegawdau. Yr wythnos hon cyhoeddir Cofio Dai, sef teyrnged i’r cyflwynydd, y canwr a’r amaethwr uchel ei barch, a fu farw ym mis Mawrth 2022. darllen mwy
Nofel gyntaf gan hanesydd poblogaidd
Mae nofel gyntaf yr hanesydd o Bwllheli, Bob Morris wedi’i osod mewn dau gyfnod, sef cyfnod Covid-19 a’r 1960au. Mae’r nofel yn llawn dirgelwch, tensiwn a chyffro sy’n adlewyrchu ei ddiddordeb byw yn y chwedegau yng Nghymru. darllen mwy
Cipolwg ar fywydau cefn gwlad gogledd Cymru yn ystod canrif o newid
Ceir cipolwg ar ganrif a mwy o hanesion ac arferion cefn gwlad mewn cyfrol hunangofiannol Arthur Gwynn Jones, sef Crefftwr Cefn Gwlad sydd yn cyhoeddi'r wythnos yma. Mae’r gyfrol yn drysorfa o hanesion llafar gan ŵr rhyfeddol. darllen mwy
Iola Ynyr yn 'perchnogi'r presennol trwy gofio'r gorffennol' yn ei hunangofiant newydd
Yn ei hunangofiant creadigol newydd, Camu, mae’r gyfarwyddwraig, hwylusydd gweithdai cyfranogol a’r awdur Iola Ynyr, yn siarad yn onest am ei bywyd a’i hadferiad o alcoholiaeth trwy gyfres o ysgrifau. darllen mwy
Addasiad "llawn gobaith" ar gyfer yr arddegau cynnar gan Caryl Lewis
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel gan yr awdur a’r sgriptwraig Caryl Lewis, sef Haf o Hud. Dyma’r ail nofel i Caryl ei hysgrifennu ar gyfer plant 9 i 13 oed sy’n pontio oed cynradd ac uwchradd. darllen mwy
Blwyddyn gron o lenydda gan Sioned Erin yn cael ei ddathlu mewn llyfr
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol o gerddi a rhyddiaith gan yr awdur ifanc, Sioned Erin Hughes. Mae O’r Rhuddin (Y Lolfa) yn cynnwys darn ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn ac yn ganlyniad i her bersonol gan yr awdur a ddechreuodd fore Calan 2023. darllen mwy
Dwy ffrind yn cydweithio ar gyfres o straeon amser gwely i blant
Dwy ffrind, Rhiannon Lloyd Williams a Sioned Medi Evans sydd wedi creu’r gyfrol wreiddiol, liwgar, Cant a Mil o Freuddwydion a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Y Lolfa. Dechreuodd y cyfan fel prosiect ar y we ym mis Medi 2019 – Rhiannon yn ysgrifennu a Sioned yn darlunio, wedi i’r ddwy sylwi bod prinder straeon cyn cysgu i blant. darllen mwy
Epig ffantasïol newydd am ferch yn ceisio achub ei brawd
Gyda chwedlau’r Mabinogi a The Hobbit ymysg hoff straeon yr awdur, yr wythnos hon cyhoeddir epig ffantasïol newydd, Trigo gan awdur newydd. Yn fab i’r awdur Mari Emlyn a’r actor a digrifwr Emyr ‘Himyrs’ Roberts, mae Aled Emyr hefyd yn aelod o’r band Achlysurol ac yn chwarae i fandiau adnabyddus eraill yng Nghymru. darllen mwy
Nofel gyntaf Ffion Emlyn yn chwarae gyda'r ffin denau rhwng y digrif a'r difrif
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel gyntaf Ffion Emlyn, Pen-blwydd Hapus? gan Y Lolfa. Mae’r stori yn un llawn troeon sy’n cychwyn gyda Martha y prif gymeriad yn gorwedd ar ei gwely gyda gwaed drosti a chyllell yn ei llaw. Ond yng nghanol yr elfennau tywyll mae yna hiwmor cynnes. darllen mwy
O Bontcanna i Bentawe: Dwy Gymru Robat Gruffudd
“Gallech ddadlau mai Caerdydd yw prif gymeriad y nofel hon,” medd Robat Gruffudd am Gobaith Mawr y Ganrif, sydd newydd ei chyhoeddi gan Y Lolfa. Mae ’na olygfeydd wedi eu lleoli ym Mhontcanna, Rhiwbeina, clwb y Cardiff & City, bwyty Eidalaidd yn y Bae, a Chanolfan y Mileniwm, ac mae’r prif gymeriadau’n cynnwys datblygwr tai, cyfreithiwr llwyddiannus, a Menna Beynon, pennaeth Corff yr Iaith Gymraeg. Ond caiff eu bywyd esmwyth ei styrbio pan gaiff Menna ei bygwth gan gyn gariad iddi, Trystan, o ddyddiau coleg Aberystwyth. darllen mwy
Addasu nofel boblogaidd Mared Lewis i ddysgwyr
Mae’r nofel boblogaidd i ddysgwyr Lefel Uwch, Fi, a Mr Huws, yn cael ei hail-gyhoeddi'r wythnos hon. Mae’r fersiwn newydd wedi’i addasu a’i safoni i fod yn rhan o gyfres Amdani, cyfres arbennig ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. darllen mwy
21-40 o 530 | 1 2 3 4 5 . . . 27 | |
Cyntaf < > Olaf |