Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Patagonia - Taith Mewn Paent
Hunllef Nadoig Eben Parri
Casglu Llwch

Casglu Llwch

Y mis hwn, mae’r cerddor o Aberystwyth, Georgia Ruth, yn cyhoeddi ei chyfrol gyntaf yn y Gymraeg, Casglu Llwch, dan adain gwasg y Lolfa. Mewn cyfres o fyfyrdodau personol a dadlennol, mae Georgia yn ein tywys i gilfachau ei hymennydd wrth iddi rannu canfyddiadau, atgofion, a cheisio gwneud synnwyr o’r byd a’i bethau.  darllen mwy

Nelan a Bo

Nelan a Bo

Twf pentref yn ysbrydoli nofel newydd Angharad Price Yn ei nofel gyntaf ers 14 mlynedd, Nelan a Bo, mae’r awdur Angharad Price yn adrodd hanes dau ffrind pennaf a’r newidiadau enfawr a welwyd yng Nghymru ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg - y cyfnod y cafodd y Gymru fodern ei chreu ym marn yr awdur.  darllen mwy

Ffermio ar y Dibyn

Ffermio ar y Dibyn

Mae Meinir Howells, cyflwynydd teledu poblogaidd ac un o ffigurau mwyaf adnabyddus y byd amaeth yng Nghymru, yn lansio ei hunangofiant Ffermio ar y Dibyn. Mae'r llyfr yn adrodd stori Meinir fel cyflwynwraig, ffermwr ac fel mam, gan gynnig cipolwg agos-atoch ar ei thaith bersonol, a'r heriau sy'n wynebu’r byd amaeth heddiw.  darllen mwy

Salem a Fi

Salem a Fi

I ddathlu hanner canmlwyddiant rhyddhau ei record Salem eleni, mae'r cyfansoddwr a’r cyfarwyddwr Endaf Emlyn wedi cyhoeddi ei hunangofiant - Salem a Fi.  darllen mwy

Dim Ond Un

Dim Ond Un

Yr wythnos hon, mae Meleri Wyn James yn cyhoeddi nofel ddirgelwch newydd, Dim Ond Un. Mae’n nofel afaelgar sy’n cyfuno cyffro, tensiwn a throeon annisgwyl, mewn lleoliad unigryw ar Ynys Enlli. Yn oriog o densiwn a chyfrinachau, mae’n nofel sy’n gafael o’r bennod gyntaf ac yn dal y darllenydd hyd nes y diwedd.  darllen mwy

Pobol y Cwm  LLYFR I DDATHLU ‘OPERA SEBON DELEDU FWYAF HIRHOEDLOG Y BBC'

Pobol y Cwm LLYFR I DDATHLU ‘OPERA SEBON DELEDU FWYAF HIRHOEDLOG Y BBC'

Mae 50 o flynyddoedd wedi treiglo heibio ers darllediad cyntaf Pobol y Cwm ’nôl yn Hydref 1974. Ddiwedd yr wythnos hon, cyhoeddir casgliad difyr o 50 o atgofion a hanesion pobl sydd wedi bod yn rhan o deulu’r gyfres boblogaidd, ac sy’n parhau i fod. Meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, ‘O fewn cloriau’r gyfrol arbennig hon i ddathlu’r garreg filltir nodedig yma, mae atgofion llu o actorion a chriw sydd wedi sicrhau llwyddiant Pobol y Cwm ar hyd y blynyddoedd.'  darllen mwy

Oedolyn (ish!)

Oedolyn (ish!)

Mel Owen a’i thaith i fod yn Oedolyn (ish!) Yn ei hunangofiant ysgafn newydd, mae’r comedïwr, cyflwynydd ac awdur, Melanie Owen, yn rhannu casgliad o’r gwersi mae hi wedi eu dysgu cyn iddi droi’n 30 oed.  darllen mwy

Ail lyfr Manawydan gan enillydd Gwobr Tir na n-Og 2023

Ail lyfr Manawydan gan enillydd Gwobr Tir na n-Og 2023

Yr wythnos hon mae Alun Davies yn cyhoeddi nofel newydd, Manawydan: Y Twrch Trwyth, yn yr un gyfres â Manawydan Jones: Y Pair Dadeni a enillodd wobr Tir na n-Og y llynedd. Dilyna’r ail nofel helyntion y prif gymeriad mud, Manawydan, sy’n ddisgynnydd i un o gymeriadau enwog y Mabinogi – Manawydan Fab Llŷr.  darllen mwy

Llyfr newydd Cyw yn annog plant i fod yn arwyr gan helpu ei gilydd
Cyhoeddi llyfr Cymraeg am wyddoniaeth flaengar

Cyhoeddi llyfr Cymraeg am wyddoniaeth flaengar

Er yn boblogaidd yn y byd cyhoeddi Saesneg, mae cyfrolau am wyddoniaeth a thechnoleg gyffredinol yn brin iawn yn y Gymraeg. Yr wythnos hon, cyhoeddir casgliad o ysgrifau am wyddoniaeth ac ymchwil flaengar gan wasg y Lolfa.  darllen mwy

Atgofion adfywio'r ddawns werin yng Nghymru dros gyfnod o 60 mlynedd

Atgofion adfywio'r ddawns werin yng Nghymru dros gyfnod o 60 mlynedd

Yr wythnos hon, cyhoeddir cyfrol ddwyieithog am atgofion Mavis Williams-Roberts a fu’n dawnsio gwerin yn frwd am 60 mlynedd gan hefyd gyfrannu at adfywio’r ddawns yng Nghymru. Mae Welsh Folk Dance Recollections / Atgofion Dawnsio Gwerin Cymreig hefyd yn cynnwys rhan o luniau lliw ac esiamplau o ddawnsiau a gyfansoddwyd ganddi.  darllen mwy

Mwy o straeon ffraeth i ddysgwyr gan Siôn Tomos Owen

Mwy o straeon ffraeth i ddysgwyr gan Siôn Tomos Owen

Mae’r arlunydd, cyflwynydd, bardd ac awdur Siôn Tomos Owen yn cyhoeddi ail gyfrol o straeon am fyw yn y Rhondda’r wythnos hon. Mae Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda yn rhan o’r gyfres Amdani, ac mae llyfr Siôn yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen.  darllen mwy

1-20 o 530 1 2 3 4 5 . . . 27
Cyntaf < > Olaf